|
Tudalen 1 o 2
Prosiectau Newydd
|
Derbyniwyd cefnogaeth ariannol oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri i ddatblygu prosiectau newydd yn enw Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Bydd ein dau Swyddog Datblygu yn gweithio o gwmpas chwe awr yr wythnos i gynllunio, trefnu a datblygu gweithdai yn niwylliannau traddodiadol Cymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf – dawnsio gwerin, canu gwerin, a cherdd dant - gyda’r pwyslais ar ddulliau traddodiadol o’u cyflwyno.
Bydd Trystan a Geraint yn cydweithio’n agos gyda arbenigwyr yn y meysydd ac yn datblygu gweithdai mewn ardaloedd penodol. Byddant hefyd yn gweithio gyda nifer o eisteddfodau lleol i sicrhau bod cystadlaethau priodol yn cael eu gosod ar y rhaglenni ar gyfer disgyblion y gweithdai hyn.
|
 |
 |
Ers yr hydref, bu Dawnswyr Talog yn hyfforddi grwpiau o bobl ifainc yn y grffet o ddawnsio step, ac mae'n braf dweud i nifer o'r dawnswyr ifainc newydd hyn gymryd rhan mewn tair eisteddfod yn Ne Ceredigion - Bryngwyn, Rhydlewis a Chastell Newydd Emlyn (fydd yn digwydd ym Mis Gorffennaf.
Yn ystod y misoedd nesaf, felly, bydd gweithgarwch tebyg yn digwydd yn y gogledd, gyda Dawnswyr Môn yn dangos y ffordd i ddawnswyr ifainc.
Y flwyddyn nesaf, bydd y ffocws yn symud oddi wrth ddawnsio gwerin i ganu gweri - gwyliwch am y manylion!
|
|