Defnyddwyr






Rhaglenni Newydd

  

gwefan Bwrdd yr Iaith

Gorffennaf 29, 2010

  

Dwy raglen arall wedi cyrraedd y wefan - Eisteddfod Llanarth ac Eisteddfod Bethel Melinycoed.

  Rwy'm mynd am yr eisteddfod genedlaethol yfory, ac yna'n cymryd pythefnos o wyliau - felly fydda i ddim yn medru gosod dim byd ar y wefan am ryw dair wythnos i fis. Cofiwch anfon rhaglenni, er hynny, ac mi gânt eu rhoi ar y wefan i'r byd a'i fam gael eu darllen cyn gynted ag y bydda i nôl.  

  

  

Gorffenaf 19eg, 2010

  

Dwy arall o raglenni'r  Hydref wedi cyrraedd y wefan - Eisteddfod Gadeiriol  Felinfach ac Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, sydd i'w cynnal ym Mis Medi.

 

Pob lwc i'r cystadleuwyr yng Nghystadleuaeth Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yng Nglynebwy ym mhen pythefnos. Dyma nodyn i'ch hatgoffa o'r gystadleuaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.

  

Cystadleuaeth Deuawd 2011 Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.  

Noddwyr : golwg360

Rhwng 12 - 26 oed.

Deuawd o waith cyfansoddwr/wraig Cymreig. 

Gwobrau : Yr eisteddfod leol i benderfynu. 

Bydd ennill mewn dwy eisteddfod leol - a dwy yn unig – rhwng Eisteddfod Genedlaethol 2010 a diwedd Gorffennaf 2011 yn rhoi hawl i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol 2011 am wobrau o £150.00, £100.00 a £50.00.

  

  

  

Gorffennaf 5ed,2010

  

Gan nad yw'r calendr yn gweithio'n arbennig o dda o hyd, a hytrach yn anodd i'w ddarllen, mae rhestr o eisteddfodau'r misoedd nesaf wedi ei chynnwys yn 'Dogfennau'. O agor y ddogfen, fe welwch gopi o dudalen gefn 'Steddfota' sy'n cynnwys yr holl esiteddfodau dros y misoedd nesaf. Pan ddaw'r rhifyn nesaf o 'Steddfota' i'r fei, fe wnawn yr un peth unwaith eto - mae'n haws a chyflymach i'w ddarllen na'r calendr, beth bynnag!

 

  

  

  

Mehefin 14eg

  

Mae rhaglen eisteddfod gyntaf yr hydref wedi ein cyrraedd! Ar ôl ychydig o drafferth, mae rhestr destunau a rhaglen Eisteddfod y Tymbl bellach ar y safle.  

 

  

Mai 27ain, 2010

  

Mae rhaglen Eisteddfod yr Hen Gapel ,Llanbrynmair, sydd i'w chynnal ym Mis Gorffennaf,  wedi cyrraedd y wefan.

 

Dymuniadau gorau i holl blant a ieuencyid Cymru sydd yn cystadlu neu'n cymryd rhan mewn rhyw ffordd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yr wythnos nesaf. Gobeithio bydd yr haul, a'r beirniaid, yn gwenu arnoch chi!

  

Mai 17eg, 2010

  

Mae rhaglenni eisteddfodau'r hydref yn dechrau cyrraedd - mae Rhestr Testunau Eisteddfod y Cymoedd wedi ei gosod ar y safle heddiw.

  

Cofiwch alw i mewn ar safle gwe Golwg360 i weld canlyniadu eisteddfodau Cymru wrth iddynt ddigwydd.  

  

  

Mai 4ydd, 2010  

  

Neges i ysgrifenyddion eisteddfodau lleol Cymru  

  

Y mae modd i chi adael copiau o raglenni eich heisteddfod ar gownter ym mhrif fynedfa Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanerchaeron ddiwedd Mis Mai. Os na fyddwch yn mynd yno eich hunan, mae croeso i chi anfon bwndel at ein swyddog datblygu Geraint Hughes (Caeralaw, 11 Maes Brynglas, Peniel, Caerfyrddin, SA32 7HF) ac fe fydd yntau'n hapus i sicrhau y byddant yn cyrraedd pen eu taith. 

  

  

Ebrill 30ain

Rhaglen Eisteddfod Dyffryn Elwy sydd i'w chynnal ym Mis Mehefin wedi ei llwytho i'r wefan heddiw.  

  

Ebrill 29in

Rhaglen Castell Newydd Emlyn bellach ar y we.

 

Gan nad yw'r calendr yn gweithio'n arbennig o dda o hyd, a hytrach yn anodd i'w ddarllen, mae rhestr o eisteddfodau'r misoedd nesaf wedi ei chynnwys yn 'Dogfennau'. O agor y ddogfen, fe welwch gopi o dudalen gefn 'Steddfota' sy'n cynnwys yr holl esiteddfodau dros y misoedd nesaf.

  

Ebrill 13eg

Yr eisteddfod ddiweddaraf i osod ei rhaglen ar y wefan yw Eisteddfod Llanrwst - ewch i weld beth sydd ganni i'w gynnig i chi.

 

Mae rhifyn y Gwanwyn o Steddfota bellach wedi ei gyhoeddi. Os nad ydych wedi derbyn eich copi eto, chwiliwch amdano i chi ddarllen y newyddion diweddaraf am hanes y Gymdeithas. 

  

Mawrth 24in, 2010

 

Neges bwysig!!Neges bwysig!!Neges bwysig!

 

Cofiwch bod Eisteddfod Rhydaman i'w chynnal y Dydd Sadwrn yma, Mawrth 26ain. Cafodd yr eisteddfod, yr un gyntaf yn Rhydaman ers y 70au, ei gohirio ym Mis Ionawr oherwydd y tywydd gwael. Mae'r adran leol yn dechre am 10.00. o'r gloch a'r agored am 2.00. o'r gloch. Y beirniaid yw Eric Jones- Cerdd a Dyfrig Davies - Llefaru. Gwobrau da iawn! Yr ysgrifennydd yw Miriam Phillips. Rhifau cyswllt : 01269850870 neu 07818411702 am wybodaeth pellach.

 

Pob dymuniad da i'r Eisteddfod!

 

  

Mawrth 19eg, 2010

Mae'n gyfnod prysur cyhoeddi rhaglenni eisteddfodau ar hyn o bryd. Mae Rhaglenni Eisteddfodau Llandegfan a Llandyfaelog wedi cyrraedd y safle, ac un eisteddfod ddiddorol iawn yn ardal Wrecsam, sef Eisteddfod y Dysgwyr. Bellach mae 21 o raglenni i'w gweld ar y safle.

  

  Mawrth 15fed, 2010

Dwy raglen o eitseddfodau Ceredigion wedi cyrraedd y wefan erbyn hyn - Eisteddfod Talgarreg ac Eisteddfod Bryngwenith. Rhowch gip arnynt i weld a oes rhywbeth at eich dant yno.  

  

  

Chwefror 10fed

  

Cyrhaeddodd Rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Llanuwchllyn a bellach mae wedi cael ei lle ym mhlith y rhaglenni eraill ar y wefan.

  

 Eisteddfod Newydd

Braf yw gweld bod eisteddfod newydd sbon ar fin digwydd yn Nhyddewi Sir Benfro, a hynny yn yr Eglwys Gadeiriol. Mawrth 2il, 2010 yw'r dyddiad - mor agos at Ddydd Gwyl Dewi ag y gellir bod. Pob llwyddiant i'r fenter newydd hon - gobeithio y daw i fod yn achlysur blynyddol llwyddiannus iawn.

  

  

Chwefror 2il : Ymddiheuriad

 

Ymddiheuriadau yn y lle cyntaf am y camgymgymeriad yrw wythnos diwethaf - canlyniadau Eisteddfod Chwilog osodwyd ar wefan golwg360, nid y Groeslon. Ac rwy'n deall hefyd nad oedd y cyswllt i wefan golwg360 yn gweithio. Rwy'n gobeithio'n fawr bod hynny wedi ei gywiro nawr. Mae'n braf gweld bod canlyniadau eisteddfod Cenarth wedi cyrraeff safle Golwg hefyd, a gobaith Owain Schiavone, sy'n trefnu'r wefan, yw y bydd gweddill eistddfodau Cymru'n ymuno â nhw gyda hyn. Cadwch lygad arni felly.

 

  

  

  

Chwefror 1af, 2010

 

Mae rhaglen Eisteddfod Penrhyncoch, sydd i'w chynnal ddiwedd Ebrill, bellach wedi ei gosod ar y wefan.

29/1/10

Mae testunau llenyddol Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog bellach wedi cyrraedd y safle hefyd.  

  Os ewch chi ar wefan Golwg 360 fe gewch adroddiad a chanlyniadau Eisteddfod Chwilog. Mae'r cyfan yno'n glir a thaclus - gobeithio y bydd eisteddfodau eraill yn dilyn esiampl y Groeslon yn hyn o beth, fel y gall pawb weld beth sy'n deillio o'n gweithgarwch fel eisteddfodau.

28/1/10

Mae pedair rhaglen aral wedi eu gosod ar y wefan erbyn hyn - Llangadog, Gŵyl Fawr Aberteifi, Y Groeslon a'r Ffôr.

Mae hyn yn golygu bod pymtheg o raglenni ar y safle ar hyn o bryd - digon i bori ynddyn nhw felly. Cofiwch, pan fydd mwy na 12 o raglenni, mae'r rhestr yn ymestyn dros ddwy dudalen. Ar y dde ar waelod y dudalen gyntaf, fe welwch rhifau'r tudalennau - cliwciwch ar '2' i symud ymlaen i'r dudalen nesaf.
 Golwg 360 yn cynnig gwasanaeth i eisteddfodau
Mae gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg 360 wedi lansio prosiect a fydd yn hybu eisteddfodau lleol Cymru, trwy gynnig man canolog ar y we ar gyfer yr holl ganlyniadau.Yn ogystal a hyn, bydd y wefan newyddion yn rhoi sylw arbennig i newyddion yr eisteddfodau yn eu hadran Celfyddydau, gan gynnwys lluniau ac adroddiadau o nifer o’r digwyddiadau. Ac os nad ydy hynny’n ddigon, bydd cyfle arbennig i’r eisteddfodau greu gwefan syml eu hunain yn rhad ac am ddim fel rhan o wasanaeth Lle Pawb y safle. Dywedodd Prif Weithredwr Golwg 360, Owain Schiavone, ”mae’r eisteddfodau lleol yn rhan canolog o ddiwylliant a bywyd celfyddydol Cymru. Fan hyn mae’r mwyafrif o’n perfformwyr llwyddiannus yn ennill eu profiad cyntaf ar lwyfan, ac maent hefyd yn ddigwyddiadau cymunedol pwysig. Ychydig iawn o wybodaeth am yr eisteddfodau sydd i’w ganfod ar y we, a’r bwriad yw i sicrhau fod yr holl ganlyniadau i’w canfod mewn un man canolog fel rhan o’n hadran Celfyddydau.”Bydd modd i’r eisteddfodau helpu hyrwyddo eu hunain fel rhan o wasanaeth Golwg 360 hefyd, gyda chyfle iddynt greu gwefan eu hunain fel rhan o ddatblygiad unigryw Lle Pawb. Meddai Owain, “mae Lle Pawb yn rhoi cyfle i bob math o grwpiau a chymdeithasau i greu gwefan fach syml dros eu hunain yn rhad ac am ddim! Mae wedi dod i’r amlwg mae ychydig iawn o eisteddfodau sydd â gwefannau, felly dyma gyfle gwych a rhwydd iddynt gael presenoldeb ar y we.”Mae’r prosiect yn dechrau ar ddydd Sadwrn 23 Ionawr gyda eisteddfod Gadeiriol Chwilog, ac eisteddfod newydd sbon Rhydaman. Bydd canlyniadau’r eisteddfodau hyn, a eisteddfodau lleol eraill Cymru i’w canfod ar www.golwg360.com. Am ragor o wybodaeth ynglŷn a Golwg 360 neu Lle Pawb, cysylltwch â Owain Schiavone ar 01570 423529 neu This email address is being protected from spam bots, you need Javascript enabled to view it  

  

  

  

  

  

Cofiwch bod modd i chi anfon adroddiadau, cyfansoddiadau a lluniau ymlaen i'w cyhoeddi ar y wefan yma, a gosod eich rhaglenni ar y safle fel bod modd i bawb eu gweld a'u lawrlwytho.

Mae'n bosibl hefyd i chi gael cyfeiriad ebost ar gyfer eich eisteddfod - fel y gall cystadleuwyr gysylltu'n gyflym gyda chi, a galluogi beirdd a llenorion i anfon eu cynnyrch trwy gyfrwng y dechnoleg ddiweddaraf.Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth ar sut i wneud hyn.

Yn olaf, croesawn syniadau ar gyfer eu cynnwys ar y safle - chi piau hi, gwnewch yn fawr ohoni!

  


 

 

 

 

gwefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri

 

Digwyddiadau

« < Gorffenaf 2010 > »
Ll M M I G S S
28 29 30 1 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30 31 1