Mae’r Gymdeithas wedi bod yn brysur yn holi hwn a llall ac arall ynghylch y gwaith pwysig o arwain eisteddfod. Ffrwyth yr ymchwil yw taflen fer yn cynnwys canllawiau i’r arweinwyr hynny. Mae’r daflen ar gael drwy ymweld â thudalen Cyhoeddiadau y wefan hon.
DAU HEN STEDDFODWR MEWN SWYDDI NEWYDD
Meirion MacIntyre Huws o Glynnog Fawr a Dana Edwards o Aberystwyth yw Swyddogion Datblygu newydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru. Dechreuodd y ddau ar ei swyddi, y naill gyda chyfrifoldeb am eisteddfodau lleol y Gogledd a’r llall am eisteddfodau lleol y De ar Fehefin 2ail.
Mae’r ddau yn hen gyfarwydd â steddfota mewn un ffordd neu’i gilydd. Mae’r Prifardd Mei Mac, wrth gwrs, yn wyneb cyfarwydd ledled Cymru yn dilyn cipio Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1993, fel aelod o dîm Y Tywysogion, Talwrn y Beirdd, Bardd Plant Cymru 2001-2, arweinydd aml i Sgwad Sgwennu ac fel bardd sydd a galw mawr amdano i arwain gweithdai mewn ysgolion.
Ar wahân i farddoni mae Mei’n ddylunydd a chartwnydd ac yn olygydd y cylchgrawn i gynganeddwyr Y Glec. Mae’n beirniadu llenyddiaeth mewn eisteddfodau bach ers blynyddoedd. Mae’n byw, gyda’i wraig Karen, yng Nghapel Uchaf, Clynnogfawr. Mae ganddo dri o blant, Mabon a Deio sydd yn eu harddegau a Nanw fach sydd yn ei chlytiau!
Ym myd eisteddfodau lleol y mae diddordeb Dana. Un o’i hatgofion cynharaf yw bod ar lwyfan Eisteddfod Pencader, pentref yng ngogledd Sir Gâr lle’i magwyd hi. Ers hynny mae wedi cystadlu’n gyson fel aelod o amryw gorau a grwpiau llefaru. Yn ddiweddar bu’n gwneud ychydig o feirniadu mewn eisteddfodau bach gan gael y cyfle i brofi eisteddfodau o ogwydd go wahanol.
O ran gyrfa mae Dana wedi gwneud nifer o bethau gwahanol. Ar ôl ennill gradd mewn Dyniaethau a Ph.D ar waith Beriah Gwynfe Evans bu’n dysgu am gyfnod yng Ngholeg Addysg Bellach Aberystwyth. Wedyn tra’n magu ei hefeilliaid, Dafydd a Fflur, bu’n cyfieithu ar liwt ei hunan cyn dychwelyd i’r Brifysgol yn Aberystwyth fel gweinydd-ydd. Yn nyddiau cynnar S4C digidol bu’n gweithio fel ymchwilydd ar nifer o wahanol raglenni ac ers hynny mae wedi ymgymryd â swyddi gyda Chwmni Theatr Arad Goch, Ffagl Gobaith (elusen hosbis Ceredigion) ac Adran Hanes, Prifysgol Aberystwyth.
Mae Mei Mac a Dana yn amlwg yn edrych ymlaen at yr her. “Does dim rhaid i bob eisteddfod a phob cystadleuaeth fod yn rhai traddodiadol” medd Dana, “mae lle i gystadlaethau newydd a fydd yn denu gwahanol gystadleuwyr a chynulleidfaoedd yn ogystal â rhoi boddhad i’r cynulleidfaoedd traddodiadol. Mae angen edrych ar ddiddordebau bobl mewn gwahanol ardaloedd a darparu cystadlaethau arbennig ar eu cyfer.” Ychwanega Mei Mac “Mae’r gymdeithas yn barod wedi bod yn trefnu gweithdai clocsio a chanu gwerin, ac mae’n fwriad gennym ehangu hyn i feysydd eraill, fel llên, arlunio a ffotograffiaeth. Mae ein heisteddfodau lleol yn hanfodol bwysig i ddyfodol ein diwylliant. Hebddynt byddai’r brodwaith cyfoethog sydd gennym yn syrthio’n ddarnau. Rwy’n edrych ymlaen at weld y Cymry’n troi’n ôl at weithgaredau lleol fel gwyliau ac eisteddfodau bychain er mwyn cadw’r trysor sydd gennym yn beth byw a’i fod yn ddiwylliant y gallwn ei ddathlu bob wythnos yn hytrach na dim ond mewn gwyliau cenedlaethol unwaith neu ddwywaith y flwyddyn. Heb eisteddfodau lleol does dim diben cynnal eisteddfodau cenedlaethol yn fy marn i.”
Mae croeso i chi gysylltu â Mei (mei@steddfota.org / 07887654251) neu Dana (Dana Edwards dana@steddfota.org; / 07814145436).